Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Gwener, 2 Gorffennaf 2021
Amser:
09.30 -
10.52
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12374
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Peter Fox AS Rhianon Passmore AS |
Tystion: |
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Matthew Denham-Jones, Llywodraeth Cymru Andrew Jeffreys, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) |
Rhag-gyfarfod anffurfiol (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod (rhithwir) cyntaf y Pwyllgor Cyllid.
2 Papur(au) i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 - Llythyr gan Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd; Goblygiadau ariannol pandemig COVID-19 - y sefyllfa ddiweddaraf fel ar 31 Mawrth 2021 - 26 Mai 2021
2.2 PTN 2 - Cylch gwaith y Pwyllgor Cyllid
3 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2021-22: Sesiwn dystiolaeth
3.1 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf, gan amlinellu ei bod yn anodd cael darlun clir gan Lywodraeth y DU ynghylch cyllid canlyniadol Barnett.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ofyn i Weinidog yr Economi i roi’r wybodaeth a ganlyn i’r Pwyllgor:
· dadansoddiad manwl o'r cyllid o £55 miliwn a oedd ar gael ar gyfer cymorth busnes ym mis Mai a mis Mehefin, gan gynnwys y rhesymau dros beidio â chymeradwyo ceisiadau 24 y cant o fusnesau, sut y cafodd y dyraniadau eu gwerthuso a sut y mae unrhyw danwariant o'r £55 miliwn wedi’i ailddyrannu.
· rhagor o wybodaeth am y cynlluniau cymorth busnes y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hariannu yn y dyfodol o’r pecyn cymorth o £200 miliwn.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o gyfarfodydd yn y dyfodol, nes y nodir yn wahanol.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2021-22: Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Gweithdrefnau’r Pwyllgor Cyllid a’i ffyrdd o weithio
6.1 Trafododd y Pwyllgor papurau ar weithdrefnau’r Pwyllgor a’i ffyrdd o weithio.